Gwybodaeth am HARP

Roedd HARP (Health, Arts, Research, People) wedi archwilio sut mae modd cynhyrchu, tyfu a dysgu am brosiectau arloesi creadigol sy’n cefnogi iechyd a lles pobl. Roedd yn bartneriaeth arloesi ac ymchwil rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Nesta ac ‘Y Lab’ ym Mhrifysgol Caerdydd.

illustration of two people with large pencil

Partners

Canlyniadau Grym Pobl Nesta

Partner arbenigol HARP ynghylch arloesi yn enwedig cydweithio ag unigolion, sefydliadau a sustemau cenedlaethol a lleol i ryddhau grym y bobl sy’n agos i faterion er mwyn mynd i’r afael â rhai o anawsterau mwyaf y sector cyhoeddus.

Cydffederasiwn GIG Cymru

Ymgynghorydd strategol i HARP, yn rhan o femorandwm cyd-ddealltwriaeth y Cydffederasiwn a Chyngor Celfyddydau Cymru. Cynghori ar waith ymgysylltu, blaenoriaethau a chysylltiadau'r GIG i ofalu bod HARP yn gorff perthnasol ac effeithiol er lles trefn yr iechyd.

Cyngor Celfyddydau Cymru

Prif ariannwr a phartner strategol, cynghori ar bob elfen o lunio a chyflawni rhaglenni yn ôl blaenoriaethau strategol allweddol a chysylltiadau â budd-ddalwyr pwysig.

Nesta

Nesta yw’r asiantaeth arloesi yn y DU ar gyfer lles cymdeithasol. Fel partner arloesi arweiniol a chyd-sefydlydd HARP, mae Nesta Cymru yn arwain y gwaith o ddylunio a darparu’r rhaglen gan weithio ochr yn ochr â’r holl bartneriaid i ariannu a chefnogi arloesedd yn y celfyddydau ac iechyd, i sefydlu’r bartneriaeth ac i ddysgu am bethau o’r newydd.

Rhwydwaith Celfyddydau, Iechyd a Lles Cymru

Ychwanegu gwerth at waith arloeswyr HARP trwy ddod â nhw ynghyd yn rhwydwaith fel y gallan nhw rannu gwybodaeth, dysg a syniadau a fydd yn magu hyder a gallu ar draws y sector.

Y Lab (Prifysgol Caerdydd)

Cyd-ariannwr, partner cyflawni rhaglenni ac ymchwil. Prifysgol Caerdydd a Nesta sy’n cynnal y Lab i lywio prosesau llunio, cyflawni ac ymchwil HARP gan gydweithio â phob partner i ariannu a chynnal prosiectau arloesol iechyd a’r celfyddydau, cydlynu’r bartneriaeth a chynhyrchu dysgu.

Tîm Cyflwyno HARP

Rosie Dow – Rheolwr y Rhaglen, Nesta

Jessica Clark – Cydlynydd y Rhaglen, Nesta

Charlene Stagon – Uwch-ymgynghorydd, People Powered Results

Dr Sofia Vougioukalou – Cymrawd Ymchwil, HARP, Y Lab (Prifysgol Caerdydd)

Angela Rogers – Cydlynydd Rhwydwaith, Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru

Leah Oatway – Ymgynghorydd Cyfathrebu

 

Grŵp Llywio HARP

Rob Ashelford - Pennaeth Nesta Cymru

Catherine Russell - Cyfarwyddwr, People Powered Results

Yr Athro James Lewis – Cyfarwyddwr Academaidd, Y Lab

Sally Lewis – Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru

Nesta Lloyd-Jones – Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Conffederasiwn GIG Cymru

 

Diolch i’n Grŵp Llywio, timoedd, partneriaid a chydweithwyr am eu cefnogaeth.