chi yw hwn os: oes gennych chi rôl lefel canolig-uwch mewn sefydliad iechyd neu ofal (bwrdd iechyd, ymddiriedolaeth GIG, elusen iechyd, awdurdod lleol neu arall).  Mae eich rôl yn debygol o gwmpasu cynllunio, darparu adnoddau a chomisiynu gwasanaethau iechyd/gofal.

Prif argymhelliad cyffredinol

Dechrau sgyrsiau ag ymarferwyr y celfyddydau: dywedwch wrthynt beth yw eich blaenoriaethau strategol mwyaf (ee iechyd meddwl, rhestrau aros, lles staff) a pha ganlyniadau a thystiolaeth rydych chi’n anelu atynt.

Gwaith paratoi

galluogi ac awgrymu cyfleoedd i staff a rheolwyr gwasanaeth weithio gydag artistiaid i archwilio sut gall creadigrwydd helpu i wella’r gwasanaeth rydych chi’n ei ddarparu i gleifion a chymunedau 

sefydlu a noddi prosiectau datblygu’r gweithlu sy’n defnyddio’r celfyddydau a chreadigrwydd i ddeall profiadau staff, a chefnogi eu lles yn y gwaith

 

Profi

cysylltu timau arloesi yn y celfyddydau ac iechyd â’r bobl a’r timau iawn yn eich sefydliadau i gefnogi’r gwaith o brofi a datblygu syniadau 

creu a meithrin diwylliant yn eich sefydliad lle mae agweddau a syniadau newydd, arbrofol hyd yn oed, yn cael eu gwerthfawrogi, a lle mae staff yn teimlo y gallant edrych y tu hwnt i’r hyn sydd ar eu swydd ddisgrifiadau

 

buddsoddi

bod yn glir ynghylch y dystiolaeth (canlyniadau, straeon, dulliau) a fyddai’n eich annog i gyfeirio pobl at brosiectau celfyddydol – a/neu eu cefnogi o’ch cyllidebau comisiynu

cysylltu ymarferwyr a sefydliadau celfyddydol â thimau data, arloesi a gweithredu eich sefydliad i gefnogi gwerthusiadau

 

tyfu

annog arweinwyr eraill yn eich sefydliad a thu hwnt iddo i werthfawrogi’r celfyddydau, creadigrwydd ac arloesi yn eu hamgylcheddau, a gwneud mwy na dim ond hyrwyddo’r gwaith hwn: gwneud iddo ddigwydd