adnoddau a buddsoddiad

arweinyddiaeth gadarn
mae gennym noddwyr prosiectau a/neu hyfforddwyr wrth law i helpu chwalu rhwystrau, cadw ein ffocws ar ein hamcanion a rhoi anogaeth

comisiynu a phrynu
mae swm bach o arian ar gael i ddechrau sefydlu cytundebau gwasanaeth gydag artistiaid a phrynu deunyddiau 

bwriad i fuddsoddi
rydyn ni’n bwriadu sefydlu cyllid tymor hwy ar gyfer ein cam 'buddsoddi'

 

 

cyflawni a llwybrau

profi
rydyn ni’n rhoi cynnig ar syniadau, gan gynllunio’n ofalus wrth i ni fynd ymlaen gan hefyd ragweld na fydd popeth yn gwbl lwyddiannus wrth gyflawni ein hamcanion

dysgu a phwyso a mesur
rydyn ni’n cwrdd yn aml, gyda phartneriaid, noddwyr a chyfranogwyr, i bwyso a mesur beth sy’n mynd yn dda a beth sydd angen newid 

ailadrodd o fod wedi dysgu
rydyn ni’n defnyddio’r myfyrdodau hyn i adeiladu ar lwyddiannau, gwneud newidiadau neu roi’r gorau i syniadau a rhoi cynnig ar rywbeth arall os oes angen. rydyn ni’n gweld yr holl ddysgu hwn fel rhywbeth defnyddiol, hyd yn oed pan nad yw pethau’n gweithio

 

 

perthnasoedd ac adrodd straeon

bod yn weladwy
os yw ein prosiect yn addas i rywun yn ein man gwaith, mae’n debygol iawn y byddan nhw’n clywed amdano 

meithrin ymddiriedaeth gyda phartneriaid
rydyn ni’n rhoi gwybod i bobl sy’n ymwneud â’n prosiect am ein cynnydd a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol, a sut gallan nhw helpu

rhoi’r diweddaraf i bobl
rydyn ni’n rhannu’r diweddaraf am gynnydd gyda’n cynulleidfaoedd allweddol a’n harweinwyr, ac rydyn ni’n gofyn iddyn nhw’n rheolaidd am help a gwybodaeth pan fo hynny’n briodol

 

 

tystiolaeth a gwerthuso

arsylwi er mwyn creu cwestiynau
rydyn ni’n dysgu pa gwestiynau a dulliau fyddai orau ar gyfer gwerthuso yn y dyfodol

cael cipolwg cynnar
rydyn ni’n sefydlu ffordd agored a thryloyw o ofyn i gyfranogwyr rannu gwybodaeth â ni am ein profion, er mwyn helpu  gwella’r hyn rydyn ni’n ei wneud

cael mynediad at ddata
mae partneriaid iechyd yn gallu cael mynediad at ddata ar fesurau canlyniad iechyd perthnasol o’u systemau presennol, i helpu archwilio cynnydd