chi yw hwn os: oes gennych chi rôl, efallai o fewn rhwydwaith, cynghrair neu ganolfan genedlaethol, sy’n cefnogi ac yn cynnull pobl sy’n gweithio ar brosiectau’r celfyddydau ac iechyd

Prif argymhelliad cyffredinol

cefnogi ymarferwyr a’r sector i wneud y cysylltiadau â strategaethau a blaenoriaethau iechyd y darlun mawr, ac eirioli dros eu gwaith

Gwaith paratoi

datblygu cynlluniau sy’n cynnig sgiliau a datblygu gwybodaeth i ymarferwyr a sefydliadau celfyddydol sydd eisiau gweithio, neu sydd eisoes yn gweithio, mewn lleoliadau iechyd

darparu cyfleoedd rhwydweithio a digwyddiadau lle gall gweithwyr iechyd proffesiynol rannu eu heriau a chwrdd ag ymarferwyr y celfyddydau, pobl â phrofiad uniongyrchol ac ymchwilwyr i weithio gyda nhw ar yr her honno

 

Profi

datblygu cynigion hyfforddi sy’n helpu partneriaethau arloesi i gydweithio’n fwyaf effeithiol

darparu adnoddau, templedi a dolenni, yn enwedig o ran modelau ariannu, gwerthuso a sut gall timau prosiect wneud eu gwaith yn hysbys i gynulleidfaoedd allweddol (ee llunwyr polisi)

creu llefydd i arloeswyr ddod at ei gilydd i bwyso a mesur y gwaith hwn, a mynegi ei werth

 

Buddsoddi

cynnig cymorth a goruchwyliaeth i ymarferwyr i helpu’r bobl sy’n gweithio yn y maes hwn i ymdopi â gofynion y gwaith

mabwysiadu ffocws dysgu: casglu a rhannu data eich aelodau am bynciau allweddol sy’n berthnasol i’r gwaith hwn (ee tystiolaeth a gwerthuso)

 

Tyfu 

casglu a chyfuno gwerthusiadau a gwersi ymarferol o amrywiaeth eang o brosiectau arloesi yn y gofod hwn, a’u rhannu ag ymchwilwyr academaidd a chyllidwyr i’w helpu i nodi prosiectau a meysydd newydd addawol