Mae ein Dull Gweithredu HARP yn amlinellu beth yn ein barn ni yw’r pedwar cam yn y broses arloesi ym maes y celfyddydau ac iechyd. Mae’n dangos beth gall proses arloesi wedi’i hysgogi gan bobl ei gynnig i dimau a phrosiectau sydd am ddefnyddio’r celfyddydau i wella iechyd a lles pobl, neu i ateb heriau iechyd a gofal. A beth yw’r nod yn y pen draw? I drawsnewid systemau iechyd.

Dull gweithredu HARP…

mae’n

  • fodel ar gyfer arloesi yn y celfyddydau ac iechyd, gan ddangos o leiaf bedwar cam pendant, pob un â nodweddion a nodau penodol
     
  • ffordd o ymdrin ag arloesi sy’n canolbwyntio ar ddysgu, cydweithio a thrawsnewid systemau iechyd
  • adnodd i rymuso pobl sy’n gweithio yn y maes hwn i fod yn ddadansoddol ac yn fyfyriol ynghylch eu prosiectau arloesi, ac i ofyn i eraill am gymorth fel bo angen
     

roedd

  • wedi’i greu ar y cyd â’r 13 o dimau arloesi yn y celfyddydau ac iechyd y gweithiom gyda nhw yn HARP
  • yn seiliedig ar arsylwadau ymarferol tîm HARP, a lywiwyd gan ddata a gasglwyd gan ymchwiliwr HARP

nid yw’n

  • broses hollgynhwysol ar gyfer prosiect celfyddydau ac iechyd perffaith: mae pob prosiect yn wahanol ac ni fydd pob un o’r pedwar cam neu elfen o ddull HARP yn addas ar gyfer pob prosiect
  • fframwaith ansawdd neu sgiliau ar gyfer artistiaid sy’n gweithio ym maes iechyd, gan fod hyn y tu allan i gylch gwaith HARP; ar gyfer hyn, cyfeiriwch at Fframwaith Ansawdd a Chod Ymarfer Rhwydwaith Iechyd a Lles Celfyddydau Cymru