chi yw hwn os: ydych chi’n swyddog etholedig, neu’n cefnogi gwaith swyddog o’r fath, gyda diddordeb mewn hyrwyddo gwaith yn y maes hwn, neu faes sy’n gysylltiedig ag ef (ee Presgripsiynu Cymdeithasol). Mae gennych chi rywfaint o ddylanwad ar y modd y caiff arian cyhoeddus ac adnoddau eu dyrannu.

Prif argymhelliad cyffredinol

mynegi’n glir beth yw rolau, cylch gwaith a blaenoriaethau cyrff statudol – iechyd, gofal, y celfyddydau – a nodi ac ariannu meysydd clir a phenodol ar gyfer cydweithio rhyngddynt (ee iechyd meddwl, presgripsiynu cymdeithasol)

Gwaith paratoi

cefnogi a chymell arweinwyr awdurdodau lleol ac iechyd i alluogi arloesi, ac archwilio sut gall y celfyddydau a chreadigrwydd gyfrannu at eu blaenoriaethau sefydliadol, yn enwedig yn y meysydd hyn

Profi

clustnodi cyllid ar gyfer cyrff iechyd a gofal statudol a chyllidebau cyllidwyr ymchwil ar gyfer atal ac arloesi

rhoi arweiniad clir i gomisiynwyr ynghylch natur, tôn a dulliau gwerthuso llwyddiant mewn systemau iechyd a gofal. At beth ydyn ni’n anelu?

 

Buddsoddi

caniatáu ar gyfer cylchoedd cynllunio a chyllidebu tymor hwy ar gyfer cyllid iechyd a gofal statudol, ee y GIG ac awdurdodau lleol

cefnogi ac annog awdurdodau lleol i roi cymhorthdal i weithgareddau celfyddydol ar gyfer iechyd a lles cymunedol

ystyried sut rydyn ni’n mesur llwyddiant mewn cyrff statudol, gan werthfawrogi gwybodaeth sy’n dangos cynnydd o ran y canlyniadau sydd bwysicaf i’r bobl dan sylw, yn ogystal â data meintiol

 

Tyfu

normaleiddio mynediad at ddiwylliant a’r celfyddydau i bawb fel rhywbeth sy’n ganolog i fywyd, iechyd a lles (fel sy’n digwydd gyda chwaraeon, er enghraifft)

siapio ein heconomi tuag at les, lle mae buddsoddiad yn y celfyddydau’n cael ei wneud gyda’r nod o wella lles pobl ac atal salwch, sydd wedyn yn ei dro o fudd i systemau iechyd a gofal ac yn lleihau’r galw.