chi yw hwn os: ydych chi’n gweithio i brifysgol neu os ydych chi’n ymchwilydd llawrydd, sy’n arbenigo mewn ymchwilio a/neu werthuso prosiectau arloesi yn y celfyddydau neu iechyd

Prif argymhelliad cyffredinol

gweithio ochr yn ochr â thimau prosiect, arweinwyr iechyd a chyfranogwyr drwy gydol y broses arloesi, gan eu cefnogi i ddefnyddio dulliau ymchwil a gwerthuso priodol ar gyfer cam yr arloesi.

Gwaith paratoi

deall y diwylliannau a’r materion trefniadaethol a wnaeth y prosiect hwn yn angenrheidiol

dechrau dod o hyd i ddulliau casglu data posibl a thrafod cyfyngiadau posibl gyda thimau prosiect

creu a chynnal proffil ar Rwydwaith Iechyd a Lles Celfyddydau Cymru

 

Prof

datblygu protocol ymchwil cychwynnol ymarferol a hyblyg sy’n addas ar gyfer iteriad ac sy’n canolbwyntio ar ganfod cwestiynau ymchwil posibl ar gyfer camau diweddarach 

cyfrif am y broses yn ogystal â’r effaith gan fod y broses yn debygol o ddatblygu a newid wrth i ddulliau newydd gael eu profi

arbrofi gyda mesurau canlyniadau ystyrlon a safonol yn lleol i ganfod yr offer casglu data mwyaf addas ar gyfer eich prosiect

 

buddsoddi

bod yn glir ynghylch eich costau, eich proses, eich disgwyliadau a’r hyn sydd ar gael ar gyfer cymryd rhan mewn prosiectau ymchwil, a’r hyn sy’n gysylltiedig. Mae hyn yn cynnwys cynllun ar gyfer pwy fydd yn casglu data ac yn ysgrifennu adroddiadau


cefnogi prosiectau i gofnodi ansawdd ochr yn ochr â nifer, ee y newid mwyaf sylweddol, ymchwiliad gwerthfawrogol

 

Tyfu

cynnal a rhannu meta-ddadansoddiad ac adolygiadau o dystiolaeth bresennol yn ôl math o brosiect, cyflwr iechyd neu leoliad, er mwyn helpu pobl i ddeall cyd-destun eu datblygiadau arloesol

symleiddio ymchwil: gwneud eich adroddiadau a’ch allbynnau’n hygyrch a rhannu eich ymchwil yn y termau symlaf posibl lle bynnag y bo modd

cyflwyno eich ymchwil i feysydd polisi ac iechyd (ee Grwpiau Trawsbleidiol) i helpu i ddylanwadu ar y rhai sy’n gwneud penderfyniadau