Mae'r artist Sophie Mak-Schram wedi agor eu harddangosfa ddiweddaraf, Dyfal Droi y Garreg, yn rhan o Safbwynt(iau), rhaglen gelfyddydau feiddgar sy'n ail-ddychmygu hanes Cymru, yn herio naratifau hanesyddol ac yn creu lle i leisiau sydd heb gael sylw digonol. Penllanw dwy flynedd o gydweithio rhwng Amgueddfa Cymru a Chapter yw'r arddangosfa hon.
Yn agor yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar 14 Mehefin 2025 ac yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter ar 13 Medi 2025, mae'r arddangosfa ddwy ran hon yn trafod sut mae pŵer yn cael ei brofi, ei rannu a'i herio mewn llefydd amgueddfaol a diwylliannol.
Gan weithio gydag ymgyrchwyr, gweithwyr cymuned, artistiaid a staff y ddau gorff, mae Sophie wedi datblygu ystod o 'offer' cydweithredol sy'n herio ac yn ail-ddychmygu strwythurau pŵer. Mae’r offer yn cynnwys templedi mynediad a phrosesau gwaith newydd i fegaffonau wedi'u haddasu, cerameg a darnau sain. Bydd detholiad o'r 'offer' i'w gweld yn rhan o Dyfal Droi y Garreg, gan annog ymwelwyr i ymgysylltu yn feirniadol â chwestiynu sut maen nhw'n uniaethu â sefydliadau diwylliannol, diwylliant a phŵer.
Yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, mae'r arddangosfa yn ystyried sut mae gwrthrychau yn cael eu casglu a'u hadnabod, lleisiau pwy a glywir wrth drafod y gwrthrychau a sut i dorri ar draws rhai o reolau cudd yr amgueddfa.
Yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter, bydd arddangosfa newydd a gwaith celf yn y fynedfa a'r caffi yn annog ymwelwyr i feddwl am sut a ble y gall pobl gwrdd, â phwy y cânt gwrdd, a beth sy'n eu helpu i wneud hyn mewn gwahanol ffyrdd.
Mae'r arddangosfeydd yn cynnwys gwaith newydd gan Sophie a'i chyfranwyr, ochr yn ochr ag eitemau allweddol o gasgliadau'r Amgueddfa, gan gynnwys Casgliad Gwasanaeth Allestyn Ysgolion yr Amgueddfa a'r coridor Celf Asiaidd. Mae Dyfal Droi y Garreg yn dangos sut mae pŵer yn siapio beth a welir, a gedwir ac a ddehonglir.
Meddai Sophie Mak-Schram: "Mae dad-drefedigaethu yn cynnwys ail-gyfeirio llawer o'r gwerthoedd a'r strwythurau sydd ar hyn o bryd yn gormesu'r rhan fwyaf ohonom. Y cwestiwn, mewn cyd-destun Ewropeaidd, yw: a oes modd dad-drefedigaethu tra bod y safbwynt canolog yn drefedigaethol? Dros y ddwy flynedd diwethaf, rydw i wedi gweithio gydag ystod o bobl i feddwl am ymatebion i hyn a'u creu – er mwyn enwi, newid ac ail-ddychmygu'r strwythurau a'r gwerthoedd sy'n gormesu cymaint ohonom."
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy gyfrwng Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, mae Safbwynt(iau) yn fenter arloesol sy'n dod â saith artist ynghyd i drafod y cysylltiadau dwfn sy'n aml heb eu lleisio rhwng Cymru a hanes byd-eang ymerodraeth, mudo a gwrthsefyll.
Cynhelir Safbwynt(iau) yn saith amgueddfa Amgueddfa Cymru ar y cyd â Chyngor Celfyddydau Cymru gyda phob artist yn taflu goleuni ar hanesion cudd sy'n rhan annatod o'r casgliadau cenedlaethol.
Bydd Dyfal Droi y Garreg yn agor ar 14 Mehefin 2025 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ac 13 Medi yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter. Bydd yn para tan 15 Chwefror 2026 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd a than 11 Ionawr 2026 yng Nghanolfan Gelfyddydau Chapter.
Tudalen we: Dyfal Droi y Garreg
Sophie Mak-Schram
Mae'r artist Sophie Mak-Schram yn rhannu eu hamser rhwng Cymru a'r Iseldiroedd ac mae eu gwaith yn cwmpasu ymarfer artistig, ymchwil hanes celf ac addysgeg radical. Maent yn ymgysylltu ag eraill mewn gwaith sy'n benodol i le ynghylch pŵer, cydweithio, gwybodaeth a'r dyfodol. Mae Sophie yn defnyddio eu profiadau personol ac a rennir o wahaniaethau diwylliannol, trefedigaethol, hil a rhywedd.
Gan ddefnyddio trosiad yr 'offeryn' yn aml – fel gwrthrych barddonol ac ymarferol – mae Sophie yn gweithio gydag eraill i greu offerynnau all newid pwyslais pŵer, dod â grwpiau ynghyd a chynnig ffyrdd gwahanol o fodoli, mewn perthynas â'n gilydd, llefydd a sefydliadau.
Ar hyn o bryd, mae Sophie yn archwilio pŵer oddi mewn a thrwy sefydliadau, gan weithio ar ail-ddychmygu deunydd o'r archif at ddibenion cynhwysiant cwiar a hil yn archifau Black Mountain College, a diffinio ac ailddiffinio casgliadau celf ac addysg yn hanes Casgliad Gwasanaeth Allestyn Ysgolion Amgueddfa Cymru a'r casgliadau Celf Asiaidd.
Ymhlith eu projectau diweddar mae Stretching Thresholds, Holding Streams (2024-2025) ar y cyd â Jeanne van Heeswijk yn Migros Museum of Contemporary Art, y Swistir a Blueprints for Studies (2024) a guradwyd ar y cyd â Rahel Sphörer ym Mhrifysgol Zeppelin, yr Almaen. Roedd Sophie yn Ddarlithydd Ailddiffinio Cwricwlwm Addysgeg Celf ym Mhrifysgol Leeds, yn Gydymaith Ymchwil yn CCA Derry-Londonderry ac yn artist Safbwynt(iau) rhwng 2024 a 2025. Ar hyn o bryd mae'n Ddarlithydd Celf Gain ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn Gymrawd Dinesig yn BAK Basecamp for Tactical Imaginaries. Cyhoeddir eu monograff cyntaf gyda HumDrum Press a Robida ddiwedd 2025.