Ymhlith y sefydliadau i elwa o'r cynnydd mae cwmnïau theatr ac opera fel Opera Genedlaethol Cymru, Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Theatr Cymru, Taking Flight, Hijinx a Chwmni Theatr y Torch yn Aberdaugleddau, cwmnïau dawns fel Bale Cymru a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru a'r sefydliad ieuenctid Urban Circle yng Nghasnewydd. Bydd y cynnydd yn cyrraedd orielau celf fel Oriel Plas Glyn y Weddw ym Mhen Llŷn, MOSTYN yn Llandudno, Oriel Elysiwm Abertawe a Chanolfan Grefft Rhuthun a chanolfannau celfyddydol o bob cwr o Gymru, fel Tŷ Pawb yn Wrecsam a Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, yn ogystal â llawer o sefydliadau eraill sy'n cyfrannu tuag at ein sîn gelfyddydol amrywiol.
Bydd sefydliadau sy'n dosbarthu grantiau ar ran y Cyngor, fel Ffilm Cymru, Llenyddiaeth Cymru a Thŷ Cerdd, hefyd yn gweld y cynnydd o 3.5% eleni, ynghyd â’r arian maent yn ei ddosbarthu - gan roi budd i artistiaid a chymunedau ledled Cymru.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cadarnhad o gynnydd o 10.5% yn ein dyraniad gan Lywodraeth Cymru sy’n adfer ein harian cymorth grant i hen lefel 2023/24, sef £33.3 miliwn y flwyddyn.
Yn ogystal â’r cynnydd i sefydliadau sy’n cael arian amlflwyddyn, mae ein harian ar gyfer 2025/26 yn cynnwys cefnogaeth ymarferol i'r sector drwy greu cronfa Gwytnwch Celfyddydol gwerth £750,000 a £2.65 miliwn i adfer a thrawsnewid y sector.
Caiff ei rannu fel a ganlyn:
- £600,000 am hyfforddiant yn sector y celfyddydau
- arian ar gyfer gwytnwch busnes i helpu sefydliadau i gael cyngor busnes a chefnogaeth ragweithiol â’r nod o wneud sefydliadau’n fwy cynaliadwy a chryfhau eu gwytnwch ariannol
- arian ar gyfer ymyriadau strategol a fydd yn sefydlogi sawl sefydliad am y flwyddyn a chefnogi'r gwaith angenrheidiol i weithredu argymhellion ein hadolygiad diweddar o’r theatr Saesneg a'r adolygiadau o gerddoriaeth draddodiadol a dawns fydd yn ymddangos ddiwedd y gwanwyn
Rydym hefyd wedi cymeradwyo cynlluniau uchelgeisiol i arddangos celfyddydau a diwylliant Cymru yn rhyngwladol, yn unol â strategaeth ddiweddar Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ein cangen ryngwladol.
Ymysg y cynlluniau mae:
- Arddangos celf o Gymru ym Miennale Fenis yn 2026 ac ymrwymiad i fynd yno yn 2028 a 2030 drwy bartneriaeth Cymru yn Fenis i sicrhau llwyfan rhyngwladol ar gyfer talentau Cymru a chyfleoedd datblygu i artistiaid a gweithwyr yn y celfyddydau gweledol. Bydd Cymru yn Fenis hefyd yn fodd inni gyrraedd cynulleidfaoedd newydd a dechrau sgyrsiau yma a’r tu hwnt drwy lwyfannau teithiol a digidol
- Codi proffil talent o Gymru drwy Brydain a thramor drwy fynd i Ŵyl Ymylol Caeredin gan ailagor ein cronfa Cymru yng Nghaeredin yn hydref 2025 i gwmnïau cynhyrchu ac artistiaid sydd am ymddangos yn yr Ŵyl yn Awst 2026 a bachu cyfleoedd i deithio eu gwaith ym Mhrydain a thramor
Bydd rhagor o fanylion am yr alwad i artistiaid i Gymru yn Fenis a Gŵyl Ymylol Caeredin dros y misoedd nesaf ar celf.cymru
Mae’r Cyngor hefyd yn dosbarthu arian ar ran y Loteri Genedlaethol gyda chyllideb seiliedig ar werthiant tocynnau. Eleni bydd newidiadau yn y ffordd y mae grantiau'r Loteri yn cael eu dyfarnu, gyda’r Cyngor yn cyflwyno rowndiau grantiau penodol i gefnogi Gwyliau a Theithio ochr yn ochr â chronfa newydd i gefnogi gwaith theatrig uchelgeisiol.
Meddai Dafydd Rhys, Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru,
"Mae cynyddu’r arian i’n sefydliadau amlflwyddyn gan 3.5% yn dangos eto ein hymrwymiad i'r 81 cwmni sy’n gweithio ledled Cymru. Mae'n cefnogi ein cwmnïau theatr, opera a dawns yn ogystal â'n horielau celf a'r prosiectau cymunedol y mae gwaith pob un mor arbennig. Drwy fuddsoddi mewn gwytnwch a thrawsnewid, gan gynnwys edrych ar sut rydym yn dosbarthu arian y Loteri, rydym am sicrhau bod celfyddydau Cymru yn parhau i ffynnu gartref a thramor.
"Wrth gwrs, mae ein harian yn cyrraedd llawer rhagor na’r 81 sefydliad yn unig. Rydym yn hyderus bod gennym gyfleoedd penodol i artistiaid unigol, arian prosiect i sefydliadau bach a mawr a chyfleoedd i gydweithio mewn partneriaeth ym maes iechyd, addysg a’r awdurdodau lleol. Byddwn yn magu gallu yn y sefydliad ond byddwn yn dal i ddosbarthu tua 90% o’n harian ledled y wlad."