Mae'r swm yn cynnwys £391m dosbarthwyd i 16,718 o brosiectau trwy Gyngor Celfyddydau Cymru.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer Achosion Da, gan ariannu dros 700,000 o brosiectau ar draws cymunedau, treftadaeth, chwaraeon, y celfyddydau a ffilm ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

Yn ogystal â newid wyneb cymunedau led led y genedl, mae mwy na 7,400 o filiwnyddion wedi cael eu creu ac mae dros £95 biliwn wedi cael ei dalu allan mewn gwobrwyon ers lansio’r Loteri Genedlaethol yn 1994. Mae Cymru wedi gweld 408 o filiwnyddion yn cael eu creu yn ystod y cyfnod hwn.

Er mwyn nodi 30 mlynedd o’r Loteri Genedlaethol ac effaith y £50bn mewn arian ar gyfer Achosion Da, mae 30 o Fomentau Newid y Gêm wedi cael eu hanfarwoli mewn arddangosfa gan y ffotograffydd, Thomas Duke – a ddatgelwyd yn yr Oriel Bortreadau Genedlaethol Llundain ac ar-lein heddiw. Mae’r ffotograffydd wedi defnyddio ei arddull unigryw i ddangos rhai o’r momentau diwylliannol mwyaf cofiadwy o’r tri degawd diwethaf a wnaed yn bosibl gyda chymorth arian y Loteri Genedlaethol. 

Mae rhai o’r momentau eiconig ar gyfer Cymru a ddethlir yn yr arddangosfa yn cynnwys buddugoliaeth y Farwnes Grey-Thompson yn y Cwpan Byd Para Olympaidd yn 2005, cynhyrchiad Michael Sheen o The Passion a unodd cymunedau ym Mhort Talbot, a'r diwrnod bythgofiadwy pan ddaeth Geraint Thomas yn fuddugwr cyntaf Cymru i ennill ras Tour de France.

Mae Thomas Duke yn adnabyddus am ei brosiect @steppingthroughfilm lle mae lluniau eiconig yn cael eu hail-ffotograffu o fewn cyd-destun eu lleoliad gwreiddiol. Teithiodd drwy'r DU i ail-greu'r momentau sy'n cydnabod ein llwyddiant mewn chwaraeon, y celfyddydau a ffilm, diogelu treftadaeth naturiol ac adeiledig a chynnig cyfleoedd i gymunedau ddod at ei gilydd. Mae’r actorion Michael Sheen a Vicky McClure, yr Olympiad Jess Ennis a’r Llewes Chloe Kelly, ymhlith nifer o wynebau enwog sy’n ymddangos yn yr arddangosfa.
 

Dywedodd Michael Sheen, actor:  "Roedd yn bleser bod yn rhan o ddathliadau pen-blwydd 30 mlynedd y Loteri Genedlaethol ac i gael The Passion a berfformiwyd ym Mhort Talbot yn cael ei gynnwys yn yr arddangosfa 30 o Fomentau Newid y Gêm. Roedd y cynhyrchiad hwnnw'n brosiect hynod arbennig i mi, ac roedd gweld sut y cafodd y dref ei huno a’i hysbrydoli gan gysylltu pobl â'i gilydd dros y penwythnos hwnnw, a chreu ymlyniadau sydd wedi parhau ers hynny yn rhyfeddol. Roedd yn foment ddadlennol gweld Port Talbot wedi'i goleuo fel y bu, a hynny oedd y catalydd i mi symud yn ôl yma.  

"Roedd yr arian a'r cymorth a dderbyniwyd yn hanfodol er mwyn gwneud i bopeth ddod i fywyd, a chynhyrchu effaith eang, bositif ar y rhai a oedd yn rhan ohono a'r gymuned ehangach. Mae'r un peth yn wir am Bêl-droed Stryd Cymru, un arall o'r prosiectau sy’n agos at fy nghalon.

Dywedodd Andria Vidler, Prif Weithredwr Allwyn, gweithredwr y Loteri Genedlaethol: “Mae heddiw yn nodi carreg filltir eithriadol gan fod chwaraewyr y Loteri Genedlaethol nawr wedi codi £50 biliwn ar gyfer Achosion Da led led y DU. Dros 30 mlynedd, nid yw hyn wedi golygu rhifau yn unig - mae'n ymwneud â bywydau diri sydd wedi'u newid a chymunedau sydd wedi'u trawsnewid, wrth barhau i greu miliwnyddion ar draws y wlad. Gan edrych ymlaen, mae ein cynlluniau i drawsnewid y Loteri Genedlaethol yn mynd rhagddynt ac rydym yn ymroddedig i godi hyd yn oed mwy o arian ar gyfer yr Achosion Da hanfodol hyn."

Dywedodd John Rose, Cadeirydd Fforwm Loteri Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae'r Momentau Newid y Gêm hyn a ddangosir yn yr arddangosfa Penblwydd 30 mlynedd heddiw yn cynrychioli uchafbwynt degawdau o ariannu, ymrwymiad di-dor, hyfforddiant ymroddedig, ffydd ddigyfnewid, gwirfoddoli anhunanol a chadernid rhyfeddol. 

"Mae dylanwad y Loteri Genedlaethol ar y celfyddydau, ffilm, treftadaeth, chwaraeon a chymunedau Cymru wedi bod yn gwbl drawsnewidiol. Am 30 mlynedd, mae wedi grymuso unigolion a chymunedau fel ei gilydd, gan alluogi miloedd o brosiectau sy’n newid bywydau ar draws Cymru. Wrth i ni nodi'r garreg filltir eithriadol hon, rydym yn parhau i ymrwymo i adeiladu ar yr etifeddiaeth falch hon a meithrin mwy o Fomentau Newid y Gêm ar gyfer y cenedlaethau sydd i ddod."

Mae tri degawd o ariannu gan y Loteri Genedlaethol wedi creu etifeddiaeth ddigymar: yn pweru rhagoriaeth athletig, yn amddiffyn trysorau diwylliannol, yn hyrwyddo cyflawniadau artistig ac yn cryfhau cymunedau ar draws y wlad. 

Ers dechrau ariannu yn 1994, mae athletwyr y DU wedi ennill mwy na 1,000 o fedalau Olympaidd a Phara Olympaidd. Mae’r Loteri Genedlaethol wedi ariannu mwy na 600 o ffilmiau sydd wedi ennill 551 o wobrau anhygoel, gan gynnwys 16 Oscar, 128 BAFTA a 34 o wobrau Cannes. Mae atyniadau poblogaidd a nodweddion enwog ar draws y DU fel yr Eden Project, Giant’s Causeway/Sarn y Cawr, y Kelpies, Angel y Gogledd a Stadiwm Y Principality a Wembley i gyd wedi derbyn cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol.  

Yn rhedeg ochr yn ochr â’r mentrau mawr hyn mae cannoedd ar filoedd o grantiau – fel arfer am £10,000 neu lai – sy’n helpu prosiectau hanfodol dan arweiniad y gymuned i wneud gwahaniaeth anhygoel yn eu hardaloedd.  

Dros y 30 mlynedd diwethaf, nid oes neb wedi gwneud mwy i newid y gêm yn y DU na chwaraewyr Loteri Genedlaethol. Ond newydd ddechrau ydym ni, a allai arian y Loteri Genedlaethol ariannu eich Moment Newid y Gêm chi? Dysgwch mwy yma: https://www.lotterygoodcauses.org.uk/gamechangers